Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2014

Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2014
Rhan o: Wrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd

Ymosodiad gan fyddin Israel ar gartrefi yn ninas Gasa
Dyddiad 8 Gorff. 2014 – presennol
Lleoliad Palesteina Y Llain Gasa
Status Yn parhau
Rhyfelwyr
 Israel
Arfau:
 Unol Daleithiau America[1][2]
Palesteina Mudiadau Palesteinaidd
Arweinwyr
Benjamin Netanyahu
Prif Weinidog Israel
Moshe Ya'alon
Gweinyddiaeth Amddiffyn Israel)
Ismail Haniyeh
Mohammed Deif
(Arweinydd brigâd Izz ad-Din al-Qassam)
Ramadan Shalah
(Arweinydd y PIJ)
Unedau a oedd yn weithredol
Llu Amddiffyn Israel
Awyrlu Israel
Llynges Israel
Shin Bet
Asgell arfog Hamas
Cryfder
176,500 milwr[3]

445,000 wrth gefn[3][4]

Tua 10,000 o Balesteiniaid arfog[5][6]
Clwyfwyd neu laddwyd
64 milwr; 6 sifiliad (oedolion)[7]
400 milwr 23 sifiliad wedi'u hanafu
2,145 wedi eu lladd (1,462 yn sifiliaid)[8] (ffynhonnell: Canolfan Iawnderau Palesteina)
Stryd yn Ramallah wedi ymosodiad gan Israel

Lansiwyd Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2014 (Hebraeg: מִבְצָע צוּק אֵיתָן, Mivtza' Tzuk Eitan, yn llythrennol: "Ymgyrch y Clogwyni Cedyrn"; Saesneg: Operation Protective Edge) ar 8 Gorffennaf 2014 gan Lu Amddiffyn Israel (IVF) yn swyddogol yn erbyn aelodau o Hamas ond erbyn 28ain o Awst roedd 2,145 o Balisteinaidd wedi eu lladd[9][10][11] (80% sifiliaid) a 10,895 o Balesteiniaid wedi'u hanafu.[12][13] Yn y cyfamser, lladdwyd 6 o sifiliaid Israelaidd. Cafwyd ymateb rhyngwladol chwyrn - gan mwyaf yn cytuno bod ymateb milwrol Israel yn rhy lawdrwm ("disproportional").

Roedd yr ymosodiad hwn gan Israel yn dilyn sawl ffactor gan gynnwys lladd tri bachgen; ac roedd awdurdodau Israel yn beio Hamas. Gwadodd Hamas unrhyw gysylltiad â llofruddiaeth y tri bachgen. Ffactorau cefndirol eraill oedd bod cyflwr bywyd yn y Llain Gaza wedi gwaethygu'n arw ers ei droi'n warchae yn 2005 a methiant cynlluniau Unol Daleithiau America i greu cynllun heddwch derbyniol.[14] Yn y gwrthdaro dilynol lladdodd byddin Israel 8 o Balesteiniaid ac arestiwyd cannoedd o bobl ganddynt. Ymatebodd Hamas drwy ddweud na fyddai'n ymatal hyd nes bod Israel yn rhyddhau'r bobl hyn.[15]

Erbyn y 12fed taniwyd 525 roced o Lain Gaza i gyfeiriad Israel ac ataliwyd 118 ohonynt gan system arfau Iron Dome Israel.[16] Credir bod 22 o sifiliaid Israelaidd wedi derbyn mân-anafiadau.

Yr ymosodiad hwn oedd y mwyaf gwaedlyd yn Gaza ers 1957.[17] Yn Ionawr 2015 cyhoeddwyd y byddai y Llys Troseddau Rhyngwladol yn agor Ymchwiliad i droseddau yn ymwneud ag Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2014.

Cyhoeddodd Amnest Rhyngwladol nad oedd unrhyw dystiolaeth bod sifiliaid wedi cael eu defnyddio fel tariannau i amddiffyn arfau neu bersonél. Cyhoeddodd Human Rights Watch fod ymateb llawdrwm Israel yn "disproportionate" and "indiscriminate".[18]

  1. "US supplies Israel with bombs amid Gaza blitz". Al Jazeera. 31 Gorffennaf 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-08-08. Cyrchwyd 2014-11-25.
  2. "US condemns shelling of UN school in Gaza but restocks Israeli ammunition". The Guardian. 31 Gorffennaf 2014.
  3. 3.0 3.1 "Israel Military Strength". Globalfirepower.com. 27 March 2014. Cyrchwyd 4 Awst 2014.
  4. "IDF chief Gantz asks for call-up of 40,000 reserves amid Operation Protective Edge". The Jerusalem Post. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2014.
  5. "Israel pushes ahead with deadly airstrikes, as Gaza fires more rockets". Al Jazeera. 9 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2014.
  6. "Operation Protective edge: Israel bombs Gaza in retaliation for rockets", The Guardian, 9 Gorffennaf 2014, http://www.theguardian.com/world/2014/jul/08/operation-protective-edge-israel-bombs-gaza-in-retaliation-for-rockets, adalwyd 2014-07-13
  7. "Occupied Palestinian Territory: Gaza Emergency Situation Report" (PDF). United Nations Office for the Coordination of Humanitarian Affairs. 28 Gorffennaf 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2014-07-29. Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2014.
  8. "Statistics: Victims of the Israeli Offensive on Gaza since 08 July 2014". Pchrgaza.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-26. Cyrchwyd 5 Awst 2014.
  9. Gaza Invasion Is Likely, Israeli Official Says – See more at: http://www.nytimes.com/2014/07/17/world/middleeast/israel-gaza-strip.html?_r=0
  10. "UN calls for Israel-Gaza ceasefire". BBC. Gorff. 12, 2014. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2014. Check date values in: |date= (help)
  11. Gaza conflict: Foreign Office urgently investigating reports of British aid worker death Independent, Published August 4th, 2014
  12. "Israel agrees to UN request for humanitarian ceasefire". Maan News Agency. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-21. Cyrchwyd 2014-07-16.
  13. "JERUSALEM: Death toll of Israel's Gaza campaign hits 114 as U.S. seeks cease-fire | World | The Sun Herald". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-14. Cyrchwyd 2014-07-12.
  14. Greenberg, Joel (30 Mehefin 2014), "'Hamas will pay,' Netanyahu vows after bodies of missing Israeli teens are found", Bellingham Herald (McClatchy), http://www.bellinghamherald.com/2014/06/30/3726878/kidnapped-israeli-teens-found.html?sp=/99/101/235/[dolen farw]
  15. "For Israel in Gaza, a delicate balancing act". Cyrchwyd 8 JGorffennaf 2014. Check date values in: |accessdate= (help)
  16. "Death toll passes 100 as Israel continues Gaza assault | Maan News Agency". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-11-12. Cyrchwyd 2014-07-12.
  17. "20 Palestinians killed overnight as UN holds emergency talks". Middle East Eye. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-11-22. Cyrchwyd 10 Gorffennaf 2014.
  18. "Israel/Palestine: Unlawful Israeli Airstrikes Kill Civilians | Human Rights Watch". Hrw.org. 16 July 2014. Cyrchwyd 3 Awst 2014.

Developed by StudentB